P-03-273 Cludo tyrbinau gwynt yn y Canolbarth
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Cynllunio Lleol i sicrhau eu bod yn ymgynghori’n briodol â chymunedau ynghylch datblygiadau ffermydd gwynt a’u bod yn cynnal asesiad priodol o effaith y datblygiadau ar y seilwaith ffyrdd gan ystyried sut y bydd problemau traffig yn effeithio’n ehangach ar sectorau fel twristiaeth cyn cymeradwyo unrhyw ddatblygiad. Credwn mai dim ond drwy gynnal ymchwiliad cyhoeddus y gellir cwblhau asesiad priodol.
Linc i’r ddeiseb:http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=873
Cynigwyd gan:Cyngor Tref y Trallwng
Nifer y llofnodion: 1
Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar:19 Ionawr, 23 Mawrth, 25 Mai, 13 Gorffennaf, 28 Medi a 16 Tachwedd 2010; a 25 Ionawr a 29 March, 12 Gorffenaf 2011.
Y wybodaeth ddiweddaraf:Cafwyd gohebiaeth gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Gwirfoddolwyr Abergorlech, Llansawel a Rhydcymerau.